ABOUT
US
Located
close to the cathedral city of St Asaph in north Wales, Trefnant Garage is the area’s
leading independent Mercedes-Benz passenger car specialist. Our aim is to provide a professional and personal service at competitive
rates.
Whilst recognising
that owning vehicles such as Mercedes-Benz is an increasingly expensive option, we prove that it is possible to have all the
expertise expected of Mercedes main dealers, without the sometimes excessive expense and disappointment. Due to the increasingly
sophisticated technology now under the bonnet of the latest cars, Trefnant Garage has invested in the latest computer-based
diagnostic equipment to repair a broad range of modern vehicles. For more information on our Services &
Repairs, click here..
Work in
the garage is carried out by Mercedes-trained technicians. Trefnant Garage proprietor, Lyn Morgan, gained
his experience of Mercedes cars after several years as a senior technician at Mercedes-Benz of North
Wales. He has received Mercedes-Benz training in the UK and
Germany and has since lectured in Motor Vehicle Engineering at Llandrillo College.
HISTORY
A Garage
has been operating on this site in the picturesque Vale of Clwyd since 1939. In 1974, the garage was taken over by Mr. Donald
G. Owens who expanded the garage - building up a large base of customers and adding MOT testing - before his retirement in
2003.
TREFNANT
GARAGE & THE ENVIRONMENT
Trefnant
Garage endeavours to minimise its impact on the environment. We are committed to recycling and waste
minimisation. We ensure that any essential disposals - such as old batteries and used engine oil - are
properly handled. Also, by ensuring that our customers’ vehicles are well maintained, we can help to minimise the emission
of harmful gases into the atmosphere. Where possible, we aim to deal with the closest local suppliers and support local community
groups and organisations.
___________________________________________________________________
AMDANOM NI
Modurdy Trefnant yw prif arbenigwr annibynnol ceir Mercedes-Benz yng Ngogledd Cymru
ac fe’i leolir ger dinas gadeiriol Llanelwy. Ein nod yw darparu gwasanaeth proffesiynol a phersonol am bris cystadleuol.
Tra’n derbyn y gall bod yn berchen ar geir tebyg i Mercedez-Benz fod yn brofiad costus, mae Modurdy
Trefnant yn profi y gellir darparu yr un arbennigedd y disgwylir oddi wrth brif fodurdy tra’n osgoi y costau uchel ac
- yn fwy aml na dim - y gwasanaeth siomedig. O ystyried y dechnoleg gynyddol soffistigedig dan fonet y ceir diweddara’,
mae Modurdy Trefnant wedi buddsoddi’n sylweddol mewn offer diagnostig-cyfrifiadurol newydd sy’n
ein galluogi i gynnal a chadw a thrwsio ystod eang o geir modern. Am fwy o wybodaeth am ein gwaith Trwsio & Gwasanaethu,
cliciwch yma…
Mae’r modurdy yn cyflogi technegwyr sy’ wedi’u hyfforddi gan Mercedes. Mae gan berchennog
Modurdy Trefnant, Lyn Morgan, gryn brofiad o geir Mercedes yn dilyn sawl blwyddyn fel uwch dechnegydd gyda
Mercedes-Benz Gogledd Cymru. Mae wedi derbyn hyfforddiant gan Mercedes-Benz yng ngwledydd Prydain ac yn yr Almaen ac, ers
hynny, wedi darlithio mewn Peirianneg Ceir yng Ngholeg Llandrillo.
HANES
Sefydlwyd
modurdy ar y safle godidog hwn yn Nyffryn Clwyd yn 1939. Ym 1974, cymerodd Mr. Donald G. Owens yr awenau a llwyddodd i ehangu’r
busnes - gan sefydlu grwp sylweddol o gwsmeriaid ffyddlon ac ychwanegu testio MOT - cyn iddo ymddeol yn 2003.
MODURDY TREFNANT A’R AMGYLCHEDD
Mae Modurdy Trefnant yn ymdrechu i wneud cyn lleied o niwed i’r amgylchedd a sy’n bosib drwy geisio
ailgylchu a lleihau gwastraff. Rydym yn sicrhau ein bod yn gwaredu deunyddiau gwastraff
angenrheidiol - fel hen olew a batris - yn y dulliau priodol. Wrth sicrhau ein bod yn cynnal a chadw ceir ein cwsmeriaid yn
effeithiol, rydym hefyd yn helpu i leihau lefelau y nwyon gwenwynig sy’n cael eu rhyddhau i’r amgylchedd. Rydym
yn ymdrechu - hyd y gallwn - i ddelio â’r cyflenwyr agosaf atom ac hefyd yn ceisio cefnogi mentrau a chyrff cymunedol
lleol.